Amdanom ni
Mae Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru yn cael ei hadnabod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel y sefydliad ymbarél ymgynghorol allweddol sy’n cynrychioli barn menywod i wneuthurwyr polisi yng Nghymru. Rydym yn ymateb i ddogfennau ymgynghorol gan bob adran o Gynulliad Cymru a nifer o gyrff sector cyhoeddus eraill.
Wedi ei sefydlu ym 1997 mewn paratoad i ddatganoli, rydym yn parhau i gynhyrchu a chyflawni prosiectau, llenyddiaeth, cyngor ac ymchwil ar draws meysydd portffolio llywodraethol. Rydym hefyd yn gweithio gyda San Steffan, Senedd Ewrop, Cenhedloedd Unedig, Llywodraeth Leol a’r Trydydd Sector. Fel sefydliad cynulliadol mae ein haelodau yn cyfuno diddordebau, profiadau, disgwyliadau ac arbenigedd amrywiol mewn materion yn ymwneud â menywod yng Nghymru.
Mae Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru yn cynrychioli rhywedd fel rhan o Gynllun y Trydydd Sector sy’n torri tir newydd trwy hyrwyddo diddordebau’r Trydydd Sector yng Nghymru. Rydym yn mynychu Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ac ystod eang o gyfarfodydd gyda Gweinidogion. Rydym wedi cyflwyno papurau ar feysydd megis Cyllidebu ar sail Rhyw a Thrais yn erbyn Menywod, sydd wedi cael eu datblygu gan y Cynulliad.
Mae gan Glymblaid Genedlaethol Menywod Cymru sedd ar Gydbwyllgor ar Fenywod Prydain. Prif nod y Cydbwyllgor yw i roi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn menywod, datblygu hawliau cyfartal i fenywod ac i sicrhau cyfleoedd cyfartal i fenywod. Mae’n cynrychioli barnau menywod Prydain yn Lobi Menywod Ewropeaidd sy’n galluogi CGMC i roi llais i fenywod yng Nghymru ar brosiectau sy’n cael eu datblygu yn Ewrop.
Mae Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru hefyd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau cydraddoldeb eraill sy’n cael eu cyllido gan y Cynulliad.
Dysgwch ragor am Beth sy’n ein gwneud yn Arbennig